Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (BSCU)
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (BSCU)
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Lefel 3 CBAC
Nod y cwrs hwn yw galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos dealltwriaeth a hyfedredd mewn sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd. Mae’r pwyslais ar ddysgu cymhwysol a phwrpasol ac i ddarparu cyfleoedd ar gyfer asesu mewn ystod o gyd-destun bywyd go iawn trwy dri Briff Her a Phrosiect Unigol.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch fel arfer yn cael ei hastudio ochr yn ochr ag o leiaf 3 chymhwyster Lefel A neu gymhwyster Lefel 3 cyfatebol er enghraifft Diploma Estynedig.
Mae’n cyfateb i un lefel A a gradd A* – E. Bydd holl Brifysgolion Cymru yn cynnwys y cymhwyster hwn yn eu cynigion. Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion eraill hefyd yn derbyn Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Bydd hyd yn oed y cyrsiau mwyaf cystadleuol fel Meddygaeth, Deintyddiaeth a Gwyddor Filfeddygol yn ei dderbyn fel dewis arall yn lle gradd Safon Uwch.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Amherthnasol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
- Prosiect Unigol – cynnal ymchwil ac ysgrifennu traethawd hir academaidd neu adroddiad hyd at 5,000 o eiriau (50%)
- Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol – Archwilio cyrchfannau’r dyfodol nodau ar gyfer bywyd, cyflogadwyedd, a dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy a Chymru (25%)
- Prosiect Cymunedol Fyd-eang – Ystyried materion byd-eang cymhleth a chymryd rhan mewn gweithredu cymunedol lleol i hyrwyddo dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy a Chymru (25%)
Bydd y cwrs hefyd yn cefnogi eich datblygiad ystod o sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd gan gynnwys:
- Cyfathrebu
- Rhifedd
- Llythrennedd Digidol
- Cynllunio a Threfnu
- Creadigrwydd ac Arloesi
- Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
- Effeithiolrwydd Personol
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan CBAC.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Cwblhau prosiect mawr terfynol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
