Cefn Gwlad a’r Amgylchedd
Cefn Gwlad a’r Amgylchedd
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Amaethyddiaeth
Mae’r cymhwyster amaethyddiaeth hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn ffermio neu reoli fferm. Efallai eich bod yn gwbl newydd i amaethyddiaeth neu efallai bod gennych rywfaint o wybodaeth neu sgiliau sydd eisoes yn bodoli.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd elfen ymarferol fawr y cwrs hwn yn eich helpu i feithrin amrywiaeth o sgiliau a fydd yn eich galluogi i naill ai symud ymlaen i astudio ar lefel uwch neu symud yn syth i gyflogaeth ar ôl cwblhau’n llwyddiannus. Byddwch yn treulio dau ddiwrnod yr wythnos yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Sir Benfro, yn ymgymryd â gweithgareddau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r cwrs.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Tri chymhwyster TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys SaesnegIaith/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg/Rhifedd
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Gynhyrchu Anifeiliaid Fferm
- Cymryd rhan mewn Darparu Cynnal a Chadw Ystadau
- Cyflwyniad i Hwsmonaeth Gwartheg Llaeth ac Eidion
- Cyflwyniad i Gynhyrchu Cnydau Porfa a Phorthiant
- Bioleg Anifeiliaid a Phlanhigion
- Gwarchod a Gwella Cynefinoedd Prydeinig
Unedau Gorfodol:
- Ymgymryd â Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith yn y Diwydiannau Tir
- Busnes Amgylcheddol a Diwydiannau’r Tir
Fel rhan o’r cwrs byddwch hefyd yn datblygu sgiliau datrys problemau, meddwl personol, cyfathrebu a gweithio gydag eraill sy’n drosglwyddadwy i ba bynnag gwrs y byddwch yn penderfynu ei ddilyn yn y dyfodol.
Cyflwynir y cwrs hwn dros dri diwrnod yr wythnos gydag un diwrnod yn cael ei dreulio yn yr ystafell ddosbarth a dau ddiwrnod yn cael ei gyflwyno mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Sir Benfro. Bydd lleoliadau ymarferol amaethyddol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan weithio gyda ffermydd lleol yn ogystal â datblygu prosiectau gwaith gyda Chymdeithas Amaethyddol Sir Benfro yn Llwynhelyg. Fel rhan o’r cwrs hwn rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Willhome Farm Barn a Folly Farm i gyflwyno profiadau ymarferol i’n dysgwyr.
Fel rhan o’r cwrs, byddwch hefyd yn dysgu sut i yrru tractor, sut i gynnal a chadw injans bach, a chyflwyniad i sefydlu a chynhyrchu cnydau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i fod yn fwy cyflogadwy a derbyn tiwtorialau wedi’u hamserlennu gan diwtor y cwrs.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cynnal a Chadw Tiroedd, Cynnal a Chadw Cloddiau, Warden Cefn Gwlad, Gweithiwr Fferm, Garddwr, Ffensiwr, Llawfeddyg Coed, Ciper, Gweithiwr Coedwigaeth, Tirluniwr, Cynnal a Chadw Coetir, Hunangyflogaeth.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
- Argymhellir bod eich brechiad Tetanws ac unrhyw frechiadau priodol eraill yn gyfredol cyn dechrau gweithio gydag anifeiliaid neu yng nghefn gwlad
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy amaethyddiaeth o £35 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
