Coginio Proffesiynol

Coginio Proffesiynol
Diploma NVQ Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol
Mae’r diwydiant lletygarwch yn sector amrywiol sy’n cynnig llawer o gyfleoedd gwaith ledled y DU ac yn rhyngwladol. O siop goffi annibynnol i westai moethus a llongau mordaith, mae angen gweithwyr proffesiynol blaen tŷ sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ar y diwydiant i fodloni gofynion cynyddol cyflogwyr.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno cyflawni safonau uchel o berfformiad mewn sgiliau coginio a patisserie. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi dysgu sut i baratoi a choginio ystod eang o brydau cymhleth melys a sawrus.
Astudir y cwrs hwn yn llawn-amser, dau neu dri diwrnod yr wythnos, dros gyfnod o flwyddyn.
Gofynion hylendid ac iechyd a diogelwch:
- Rhaid gorchuddio pob tatŵ gweladwy
- Rhaid cael gwared ar dlwsdyllau gweladwy i gyd
- Ni chaniateir gemwaith, ac eithrio modrwy briodas ac un pâr o glustdlysau styds
- Rhaid brwsio’r gwallt a’i glymu’n ôl
Canllaw Cyrsiau Lletygarwch
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Fel arfer nid oes mynediad uniongyrchol i'r cwrs hwn, byddai angen i chi symud ymlaen o gwblhau lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
- Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Sefydlu a datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol ym maes lletygarwch
- Cynnal iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd yr amgylchedd gwaith
- Cynnal diogelwch bwyd wrth storio, paratoi a choginio bwyd
- Paratoi, coginio a gorffen:
- prydau pysgod cymhleth
- prydau cig cymhleth
- prydau dofednod cymhleth
- dresin a sawsiau oer
- prydau pasta ffres
- cynnyrch bara a thoes
- cacennau, bisgedi, sbyngau a sgons cymhleth
- eitemau crwst cymhleth
- pwdinau poeth cymhleth
- pwdinau oer cymhleth
- Cynhyrchu sawsiau, llenwadau a haenau ar gyfer pwdinau cymhleth
Byddwch hefyd yn ymgymryd â lleoliad gwaith o leiaf un diwrnod yr wythnos mewn sefydliad lletygarwch ac arlwyo addas.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Grade C or above in both
Grade D
Grade E or F
Grade G or below
Grade C or above in both
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
Grade D
- A one year GCSE resit course in required subject/s
Grade E or F
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
Grade G or below
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cogydd Iau Sous, Porthor Cegin, Cogydd Pantri, Cynorthwyydd Bwyd a Diod, Prif Gogydd, Sous Chef, Commis Chef, Patisserie Chef, Rheolwr dan Hyfforddiant, Chef de Partie, Demi Chef.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
- Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwisg, y gallwch ei phrynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Offer cegin penodol, y gallwch ei brynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy lletygarwch o £55 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 3
- Yn ystod y cwrs bydd costau ychwanegol ar gyfer nwyddau traul
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 19/09/2023