Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
OCR Lefel 2 Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Mae sgiliau cyfrifiadurol a digidol yn hanfodol ym mron pob diwydiant a busnes.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar rôl swydd ymarferwr meddalwedd ar draws ystod o sectorau gan gynnwys seiberddiogelwch, creu gwefannau, cymwysiadau symudol a chreu gemau. Bydd dysgwyr hefyd yn archwilio ieithoedd rhaglennu a’r cyd-destunau y gellir eu defnyddio ynddynt.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Three GCSEs at grade D or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Successful completion of relevant Level 1 programme with a merit grade or above in addition to a successful decision from progression board meeting
- Two GCSEs at grade D or above (or evidence of improvement from internal GCSE assessments or Skills) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Gall yr unedau i’w hastudio gynnwys:
Hanfodion TG
Mae’r datrysiadau TG y mae busnesau’n eu defnyddio yn y byd modern yn cynnwys llawer o wahanol gydrannau. Gall y rhannau hyn gynnwys cyfrifiaduron personol, cyfrifiaduron personol sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd i ffurfio rhwydwaith, dyfeisiau a thechnolegau gwisgadwy sydd ynghlwm wrth y cyfrifiadur personol neu’r rhwydwaith trwy’r cwmwl a’r rhyngrwyd.
Mae’n uned orfodol a asesir yn allanol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol.
Hanfodion Seiberddiogelwch
Gyda chymaint o ddata a gwybodaeth yn cael eu storio ar systemau cyfrifiadurol, mae’r angen am ddiogelwch yn bwysicach nag erioed.
Mae’r uned hon wedi’i dylunio i alluogi’ch myfyrwyr i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o rai o’r bygythiadau a’r gwendidau a all gael effaith ar unigolion a sefydliadau. Byddant yn dysgu am rai o’r mesurau y gellir eu defnyddio i amddiffyn rhag ymosodiad seiberddiogelwch.
Mae’n uned orfodol a asesir yn allanol.
Creu datrysiadau rhaglennu ar gyfer busnes
Bydd yr uned hon yn galluogi eich myfyrwyr i archwilio ieithoedd rhaglennu a’r cyd-destunau y gellir eu defnyddio ynddynt. Bydd myfyrwyr yn cynllunio datrysiad busnes gan ddefnyddio iaith raglennu, yn creu’r rhaglen gan ddefnyddio amgylchedd datblygu priodol, yn profi’r rhaglen ac yn myfyrio ar y rhaglen a grëwyd.
Cyflwyno’r cynnyrch
Unwaith y bydd cynnyrch TG wedi’i ddylunio, mae ei gyflwyno i’r bobl gywir mewn fformat priodol yn sicrhau ei fod yn cael ei gymeradwyo. Er mwyn i gyflwyniad gael effaith gadarnhaol a chofiadwy ar gleient, rhaid iddo fod yn arloesol a darparu adlewyrchiad gonest o’r cynnyrch, ei nodweddion a’i alluoedd.
Bydd yr uned hon yn rhoi’r cyfle i ddysgu am gyflwyno cynnyrch i gleient a’r gwahanol ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir i gyflwyno cynhyrchion i randdeiliaid.
Defnyddio technolegau newydd
Bydd y myfyrwyr yn deall nodweddion a defnyddiau posibl technolegau newydd, er enghraifft, nwyddau gwisgadwy, AI, VR, AR, argraffu 3D, 5G a roboteg. Bydd angen ystyried sut y gellir defnyddio technolegau newydd i gefnogi busnesau ac egluro manteision ac anfanteision y technolegau hyn a gallu nodi effeithiau yn y dyfodol o gymhwyso’r technolegau newydd hyn.
Creu gwefannau
Diben yr uned hon yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i greu gwefannau sylfaenol i ddiwallu anghenion busnes. Bydd yn eich paratoi yn y broses a’r sgiliau sydd eu hangen i ddylunio, creu neu addasu cydrannau gwefan a’ch galluogi i ddiweddaru gwefan sy’n bodoli eisoes i ddiwallu anghenion busnes.
Creu cymwysiadau symudol ar gyfer busnes
Mae technoleg symudol yn dod yn fwyfwy cyffredin o fewn cymdeithas o safbwynt personol yn ogystal ag o fewn busnes. Nod yr uned hon yw darparu dealltwriaeth o’r defnydd o gymwysiadau symudol ar gyfer busnes. Byddwch yn cynllunio, creu, diweddaru a gwella cymwysiadau symudol.
Creu Gemau
Mae dylunio gemau yn faes poblogaidd o fewn y diwydiant sy’n parhau i ddatblygu cysyniadau a thechnolegau newydd, gan ddenu cynulleidfa amrywiol lawer ehangach gyda gofynion lluosog ar gyfer llwyfannau lluosog. Nod yr uned yw rhoi cyfle i ddefnyddio hanfodion dylunio gemau a datblygu’r sgiliau i gynhyrchu gemau o ddyluniadau gêm ac archwilio sut i gyfoethogi’r gemau trwy ymgorffori nodweddion ychwanegol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Online examination
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae dilyniant yn bosibl i gyrsiau Lefel 3 mewn disgyblaeth gysylltiedig fel y cwrs Cyfrifiadura Lefel 3. Bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i gael gwaith ar lefel hyfforddai o fewn ystod eang o amgylcheddau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- A memory stick/a small portable USB hard drive
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- No tuition fee
- We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
