Cynnal a Chadw Adeiladu
Cynnal a Chadw Adeiladu
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheini sy’n dymuno dilyn gyrfa yn adran cynnal a chadw adeiladau a gofal y diwydiant. Mae’n cynnwys amrywiaeth o sgiliau dymunol yn unol â chais cyflogwyr sy’n chwilio am staff aml-sgil mewn meysydd fel gwaith brics, addurno, plastro, plymwaith a gwaith coed.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs yn cynnwys atgyweiriadau ar raddfa fach mewn amrywiol grefftau yn y sector Adeiladu, ar gyfer y crefftau canlynol:
- Atgyweirio Adeiladau (Gwaith Brics)
- Atgyweiriadau Peintio ac Addurno
- Gwaith Trwsio Plastro
- Atgyweiriadau Plymio
• Atgyweirio Gwaith Saer
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Tri chymhwyster TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys SaesnegIaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg/Rhifedd
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Dyma’r modiwlau fydd yn cael eu cynnwys:
- Gwneud atgyweiriadau adeiladau ar raddfa fach.
- Gwneud atgyweiriadau peintio ac addurno ar raddfa fach.
- Gwneud atgyweiriadau plastro ar raddfa fach.
- Gwneud atgyweiriadau plymio ar raddfa fach.
- Gwneud atgyweiriadau gwaith coed.
- Iechyd, diogelwch a lles mewn Adeiladu.
- Egwyddorion Adeiladu Adeiladau, Gwybodaeth a Chyfathrebu.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad mewnol
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
- Arholiad ar-lein
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus efallai y byddwch am symud ymlaen i un o’r llwybrau Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 neu Brentisiaeth Lefel 3.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy adeiladu o £55 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
