Cost y cwrs:
Dŵr Poeth: Gwresogi Thermol Solar

Dŵr Poeth: Gwresogi Thermol Solar
LCL Lefel 3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Dŵr Poeth Solar Thermol
Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn gosod a chynnal a chadw systemau dŵr poeth thermol bach.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hyfforddi ac asesu pum diwrnod hwn ar gyfer y dysgwyr hynny a gyflogir ar hyn o bryd yn y diwydiant plymio a gwresogi domestig sy’n rhoi’r hyfforddiant angenrheidiol iddynt ddatblygu eu medrau presennol. Mae’n ymdrin â dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau dŵr poeth solar thermol.
Gall cyllid Cyfrif Dysgu Personol (PLA) fod ar gael ar gyfer y cwrs hwn (yn amodol ar gymhwysedd). Edrychwch ar y wybodaeth am gyllid PLA neu cysylltwch â central@colegsirbenfro.pembrokeshire-college.webboxdemo.co.uk
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436, drwy e-bost canolfanynni@colegsirbenfro.pembrokeshire-college.webboxdemo.co.uk neu drwy’r ffurflen gais am alwad yn ôl isod.
Beth yw'r gofynion mynediad?
Dylai fod gan ddysgwyr gymhwyster NVQ lefel 2/3 o leiaf mewn plymio neu beirianneg wresogi gonfensiynol, Tystysgrif Systemau Storio Dŵr Poeth wedi’i Haenu a Heb ei Awyru Domestig a Rheoliadau Dŵr.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Gwybod y gofynion i osod, comisiynu a throsglwyddo systemau dŵr poeth solar thermol
- Archwilio, gwasanaethu a chynnal systemau dŵr poeth solar thermol ‘gweithredol’
- Gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dŵr poeth solar thermol ‘gweithredol’
- Gwybod y gofynion i archwilio, gwasanaethu a chynnal systemau dŵr poeth solar thermol ‘gweithredol’
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Following completion of this course you might want to try another one of our Energy Centre courses.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Copïau o ddysgu blaenorol a/neu gymwysterau
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.