Dyfodol Llwyddiannus
Dyfodol Llwyddiannus
Gwobr John Muir
Cwrs i archwilio’r awyr agored, gwella lles a datblygu sgiliau cyflogaeth ac astudio.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Cynlluniwyd y rhaglen hon i alluogi dysgwyr i brofi amrywiaeth o feysydd galwedigaethol, gan ddod yn fwy agored i wahanol lwybrau dilyniant, gan gynnwys cyflogaeth, dysgu seiliedig ar waith neu gwrs Coleg AB pellach. Wedi’i ategu gan Wobr John Muir ac yn dilyn y 5 ffordd at les, bydd dysgwyr yn cael profiad o’r awyr agored trwy amrywiaeth o weithgareddau mewn gwaith tîm, gwirfoddoli, archwilio, cyflogadwyedd a pharodrwydd i weithio yn ogystal â meithrin hyder a gwydnwch trwy diwtorial a rhaglen gymorth ddwys.
Mae’r rhaglen 20 wythnos hon yn dechrau ar 11 Ionawr 2024 a bydd yn rhedeg dros 5 diwrnod yr wythnos a fydd yn cynnwys un diwrnod ystafell ddosbarth lle bydd dysgwyr yn gweithio ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Bydd gan ddysgwyr dystiolaeth o weithio ar Lefel 1 yn flaenorol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Amherthnasol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y cwrs yn dilyn y 5 ffordd at les a chwricwlwm Gwobr John Muir. Daw cyfleoedd dysgu trwy gysylltu â’r amgylchedd, bod yn egnïol, cymryd sylw ac ymwybyddiaeth ofalgar yn ogystal â pharhau i ddysgu a rhoi yn ôl i’r gymuned.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
Beth alla i ei wneud nesaf?
Y camau nesaf fydd rhaglen Addysg Bellach Lefel 1 neu Lefel 2, prentisiaeth dysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
