Gofal Plant

Gofal Plant
Tystysgrif Lefel 1 CBAC Cyflwyniad i Ofal Plant
Mae’n hysbys yn gyffredinol bod sut mae plant yn ymgysylltu â dysgu yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn chwarae rhan bwysig wrth bennu eu dyfodol. Trwy ddewis astudio cwrs mewn gofal plant, gallwch fod yn rhan o’r dyfodol hwnnw.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i’ch paratoi ag ystod eang o wybodaeth y bydd ei hangen i gael gwaith yn gweithio gyda phlant ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu am dwf a datblygiad plant a bydd angen y gallu i uniaethu â phlant.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn astudio’r unedau canlynol:
- Cyflwyniad i’r sector gofal plant
- Goresgyn rhwystrau yn y Gwaith
- Deall datblygiad a lles plant
- Datblygu sgiliau digidol ac ar-lein
- Gwerthfawrogi amrywiaeth yn y Gwaith
- Cyflwyniad i ymddygiad priodol yn y gweithle
- Gweithio fel rhan o dîm
- Cyflwyniad i iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Deall egwyddorion a gwerthoedd
- Deall diogelu plant mewn perygl
Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch hefyd yn astudio Dyfarniad Lefel 1 VTCT mewn Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac yn cwblhau Diogelu Haen 1.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Grade C or above in both
Grade D
Grade E or F
Grade G or below
Grade C or above in both
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
Grade D
- A one year GCSE resit course in required subject/s
Grade E or F
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
Grade G or below
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Gweithiwr Chwarae Cynorthwyol, Gwarchodwr Plant, Cynorthwyydd Meithrin, Cynorthwyydd Dosbarth, Gweithiwr Gofal y Tu Allan i Oriau Ysgol, Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu, Cynorthwyydd Anghenion Arbennig.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Dillad brand penodol, yn daladwy ar ddechrau eich cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Ffi DBS Manwl - £44, yn daladwy wrth gofrestru
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 24/06/2024