Gofal Plant

City & Guilds Lefel 3 Diploma Estynedig Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant | Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 City & Guilds: Craidd
Natur werth chweil gofal plant yw’r bachyn mwyaf oll. Wrth galon pob gyrfa gofal plant mae angerdd am les a datblygiad plentyn.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y rhaglen hon yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn, neu’n bwriadu gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig gyda theuluoedd a phlant o dan wyth oed a/neu wasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheini sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
- TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cymhwyster hwn yn cyfuno gwybodaeth theori â’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio o fewn y sector.
Dros ddwy flynedd, bydd myfyrwyr yn astudio:
- Rhaglen Lefel 3 Diploma Estynedig Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (cyfwerth â tri Lefel A)
- Lefel 3 Bagloriaeth Cymru Uwch (cyfwerth ag un Lefel-A) a fydd yn cefnogi dilyniant i fyfyrwyr Prifysgol/Addysg Uwch
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd (os nad yw wedi’i gwblhau eisoes) Sylwch mai dyma’r elfen theori o ymarfer
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Diogelwch bwyd
- Cymraeg
Rhaglen Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Mae’r agwedd theori yn canolbwyntio ar egwyddorion a damcaniaethau sy’n dylanwadu ar iechyd, lles a datblygiad plant a sut y gall y sector gofal plant ac iechyd plant ymateb i holl anghenion plant 0-19 oed.
Mae’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y mae angen i ddysgwr eu cyflawni o fewn y cymhwyster hwn yn adeiladu ar gynnwys y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori a’r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd cymhwyster.
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
Bydd y cymhwyster, a elwir yn ‘Graidd’ yn rhoi cyflwyniad trylwyr i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn sector y Blynyddoedd Cynnar. I gyflawni’r cymhwyster Craidd, rhaid i ddysgwyr gyflawni’r unedau canlynol:
- Egwyddorion a gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed)
- Iechyd, lles, dysgu a datblygiad
- Ymarfer proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Diogelu plant
- Iechyd a diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Ar gyfer eich Lefel 3 byddwch yn cwblhau’r unedau hyn:
- Hyrwyddo arfer craidd mewn gofal, chwarae a dysgu a datblygiad plant
- Hyrwyddo chwarae, dysgu, twf a datblygiad
- Hybu maethiad a hydradiad yn y blynyddoedd cynnar
- Ymateb i salwch plentyndod, pla/haint, afiechyd ac imiwneiddio
- Sgiliau ymarferol ar gyfer lleoliad gwaith ym mlynyddoedd cynnar 0-7
- Hyrwyddo gofal plant 0-2 oed
- Hyrwyddo gofal plant 2-3 oed
- Hyrwyddo gwaith gyda phlant 3-7 oed
- Hwyluso dysgu grŵp
- Dulliau cadarnhaol o gefnogi ymddygiad yn y blynyddoedd cynnar
- Egwyddorion a damcaniaethau sy’n dylanwadu ar ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn yr 21ain ganrif yng Nghymru
- Hyrwyddo a chefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu
Profiad Gwaith: Bydd gofyn i chi ymgymryd â 720 awr o leoliad gwaith i ennill y cymhwyster hwn. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad gwaith mewn meithrinfa ddydd gyda 0-3 oed ac mewn ysgol 3 -8 oed. Mae lleoliad gwaith fel arfer yn 2 ddiwrnod yr wythnos gyda lleoliadau bloc ychwanegol trwy gydol y 2 flynedd.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Grade C or above in both
Grade D
Grade E or F
Grade G or below
Grade C or above in both
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
Grade D
- A one year GCSE resit course in required subject/s
Grade E or F
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
Grade G or below
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
- Ymweliadau gan eich aseswr â'ch gweithle
- Arholiad ysgrifenedig
- Cwblhau prosiect mawr terfynol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Gweithiwr Chwarae Cynorthwyol, Gwarchodwr Plant, Cynorthwyydd Meithrin, Rheolwr Meithrinfa, Arweinydd Cylch Chwarae, Cynorthwy-ydd Dosbarth, Gweithiwr Gofal y Tu Allan i’r Ysgol, Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu, Cynorthwyydd Anghenion Arbennig, Athro/Athrawes Ysgol Gynradd, Cwnselydd Plant, Gweithiwr Ieuenctid.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Dillad brand penodol, yn daladwy ar ddechrau eich cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Ffi DBS Manwl - £44, yn daladwy wrth gofrestru
- Costau cludiant ar gyfer lleoliad gwaith
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/05/2024