Gwasanaethau Amddiffyn
Gwasanaethau Amddiffyn
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwasanaethau Lifrai
Mae’r gwasanaethau amddiffyn/cyhoeddus yn cynnig ystod amrywiol a chyffrous o gyfleoedd gyrfa. Os ydych yn allblyg, yn frwdfrydig, gyda diddordeb brwd mewn gwasanaethau amddiffyn/cyhoeddus, a’ch bod yn mwynhau her, yna dyma’r cwrs i chi.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn ymchwilio i natur y gwasanaethau amddiffyn/cyhoeddus yn ogystal â chael dealltwriaeth gadarn o’u rôl o fewn cymdeithas. Rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol eich hun gan archwilio rôl ffitrwydd a gwaith tîm o fewn yr unedau ymarferol.
Bydd yr Academïau Chwaraeon mewn pêl-droed a rygbi ar gyfer ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd yn cael eu hastudio ochr yn ochr â’r cwrs hwn. Bydd disgwyl i bob dysgwr gymryd rhan a chyfrannu at un o’r academïau chwaraeon a drefnir gan y Coleg. Bydd y profiad o gaffael sgiliau ychwanegol, dadansoddi perfformiad a moeseg tîm yn gwella dealltwriaeth dysgwyr ymhellach o ddeinameg grŵp sydd o fudd iddynt yn eu cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae cwblhau’r Diploma Estynedig yn llwyddiannus ym mlwyddyn dau gyfwerth â thair Lefel A.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/English Literature/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy at grade D or above
- Should demonstrate a keen interest in physical activity and be physically fit
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Successful completion of relevant Level 2 programme with a merit grade or above in addition to a successful decision from progression board meeting
- Preferably GCSE Mathematics/Numeracy at grade D or above
- GCSE English Language/Literature/First Language Welsh at grade C or above
- or evidence of improvement from internal GCSE/s
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Fel rhan o’r cwrs byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu, arwain, gweithio’n unigol ac fel rhan o dîm, gwneud cyflwyniadau a ffitrwydd.
Bydd yr unedau a astudir yn cynnwys:
- Dinasyddiaeth ac amrywiaeth – mae dysgwyr yn ymchwilio i ddinasyddiaeth a natur amrywiol cymunedau yn y DU, ynghyd â hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion a’r rhai sy’n eu gwasanaethu
- Ymddygiad a disgyblaeth yn y gwasanaethau amddiffyn/cyhoeddus mewn lifrai – mae dysgwyr yn ymchwilio i ffactorau a all effeithio ar ymddygiad a’u heffaith ar ddisgyblaeth unigolion a grwpiau yn y gwasanaethau amddiffyn/cyhoeddus mewn lifrai
- Gwaith tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – datblygu eich sgiliau fel aelod tîm ac arweinydd tîm gan gynnwys tasgau ymarferol a theori arweinyddiaeth
- Paratoi corfforol, iechyd a lles – mae dysgwyr yn astudio cydrannau ffactorau ffitrwydd a ffordd o fyw. Byddant yn datblygu sgiliau gwella ffitrwydd personol ac yn bodloni gofynion ffitrwydd mynediad gwasanaethau amddiffyn/cyhoeddus mewn lifrai
- Cyflwyniad i droseddeg – mae dysgwyr yn archwilio’r damcaniaethau troseddeg a ddefnyddir i egluro, mesur a mynd i’r afael â throseddau ac ymddygiad troseddol yng Nghymru a Lloegr, a’u dylanwad ar y gwasanaethau cyhoeddus/amddiffyn mewn lifrai.
- Gweithgareddau awyr agored – mae dysgwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sy’n berthnasol i arfer gorau a rheoli risg wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Er enghraifft: dringo, cyfeiriadu, mynydda ac ar alltaith diwrnod
Gallwch hefyd ddisgwyl mynychu darlithoedd a thrafodaethau gyda chynrychiolwyr o wahanol sefydliadau, cymryd rhan mewn ymweliadau â gwahanol sefydliadau gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai/gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd angen taith fel rhan o’r cwrs hwn am gost o £65 i’r dysgwr.
Bydd angen dillad brand penodol, y gost yw tua £95
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Practical assessment during the course
- Written examination
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae’r cwrs hwn yn gam tuag at nifer helaeth o yrfaoedd gan gynnwys: Heddwas, Gwasanaethau Diogelwch, Lluoedd Arfog, Swyddog Llu Ffiniau, Swyddog Mewnfudo Cynorthwyol, Gwarchodwr, Gwylwyr y Glannau, Triniwr Cŵn, Triniwr Cudd-wybodaeth Droseddol, Swyddog Carchar, Ditectif Storfa, Swyddog Tollau, Diffoddwr Tân, Ymchwilydd Damweiniau Traffig Ffyrdd.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- Text books - you will be told about any specific items before you start the course, most text books are available to loan from the college library or online libraries
- You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
- Specific branded clothing, payable at the start of your course
- Practical/comfortable clothing for parts of the course
- Specific sports kit, which you can purchase online before you start the course
- protectu: Protective Services uniform - £95
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- No tuition fee
- We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
- You will need to pay a £65 outdoor skills fee before you start the first year course
- You will need to pay a £60 fitness facility fee each year before you start the course
- There may be trips/expeditions required or optional as part of this course
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
