Gweithrediadau Porthladd

Gweithrediadau Porthladd
Tystysgrif NVQ Lefel 2 EAL mewn Gweithrediadau Porthladd
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau mewn gweithrediadau porthladd gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs wyth mis hwn ar gyfer dysgwyr sydd angen cydnabyddiaeth o’u cymhwysedd mewn un neu fwy o amrywiaeth eang o weithgareddau gweithrediadau porthladd ac sydd hefyd angen cymhwyster lefel dau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire-college.webboxdemo.co.uk
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cymhwyster hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth mewn un neu fwy o amrywiaeth eang o weithgareddau gweithrediadau porthladdoedd gan gynnwys:
- Diogelu a chludo cargo
- Symud llwythi a chargo trwy ddulliau amrywiol
- Trin gwahanol gargoau
- Cynllunio a gweithredu cynllun codi
- Llestri angori
- Trin a llywio cychod porthladd
- Mae hyn yn cynnwys dwy uned orfodol ac ystod o unedau dewisol.
Mae’r unedau gorfodol i’w hastudio yn cynnwys:
- Iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gwaith
- Datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr
Dewiswch o amrywiaeth o unedau sydd ar gael o’r grwpiau dewisol i wneud iawn am weddill y credydau ar gyfer y cymhwyster.
Os nad oes gennych gymwysterau TGAU Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd, efallai y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) – Sgiliau Cyfathrebu
- Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) – Sgiliau Cymhwyso Rhif
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Grade C or above in both
Grade D
Grade E or F
Grade G or below
Grade C or above in both
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
Grade D
- A one year GCSE resit course in required subject/s
Grade E or F
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
Grade G or below
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ysgrifenedig
- Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 10/06/2024