Gwyddoniaeth Gymhwysol

Gwyddoniaeth Gymhwysol
Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Bydd y cwrs hwn yn rhoi ystod eang o sgiliau a gwybodaeth i chi a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen naill ai’n uniongyrchol i gyflogaeth neu i fynd ymlaen i astudio ar lefel gradd.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol yn rhoi cyfle i astudio ymhellach bob un o’r tair disgyblaeth, sef gwyddoniaeth, Bioleg, Cemeg a Ffiseg, gydag ymagwedd fwy ymarferol.
Mae’r holl wersi wedi’u lleoli yn ein labordai gwyddoniaeth, felly mae’r cwrs yn darparu profiad dysgu ymarferol. Bydd y cwrs yn rhoi ystod eang o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i astudio ar lefel gradd neu fynd i gyflogaeth mewn maes gwyddonol.
Mae cwblhau’r Diploma Estynedig yn llwyddiannus ym mlwyddyn dau gyfwerth â thair Lefel A.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd a Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd gofynion y cymhwyster yn golygu eich bod yn datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy a lefel uwch sy’n cael eu gwerthfawrogi gan ddarparwyr addysg uwch a chyflogwyr. Er enghraifft, mae astudio gwyddoniaeth gymhwysol yn arbennig yn annog datblygiad medrau fel gwerthuso, dadansoddi a chyfosod.
Ymhlith yr unedau a astudiwyd mae:
- Egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth 1
- Gweithdrefnau a thechnegau gwyddonol ymarferol
- Sgiliau ymchwilio gwyddoniaeth
- Technegau labordy a’u cymhwysiad
- Molecylau biolegol a llwybrau metabolaidd
- Seryddiaeth a gwyddor y gofod
- Egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth 2
- Prosiect ymchwiliol
- Materion cyfoes mewn gwyddoniaeth
- Technegau microbioleg a microbiolegol
- Geneteg a pheirianneg enetig
- Cymwysiadau cemeg organig
- Tystiolaeth fforensig, casglu a dadansoddi
- Technolegau Ffiseg Feddygol
Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwyddor Bwyd lle bydd dysgwyr yn cymhwyso eu gwybodaeth wyddonol i’r maes cyflogaeth cynyddol boblogaidd hwn. Bydd cyflwyno yn y dosbarth, yn ogystal â sesiynau ymarferol yn y ceginau lletygarwch yn galluogi dysgwyr i gwblhau’r cymhwyster dros ddwy flynedd. Mae manylion Gwyddor Bwyd i’w gweld yma: Manyleb Tystysgrif Gymhwysol CBAC mewn Gwyddor Bwyd a Maeth o 2015-e 21.10.22. Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Grade C or above in both
Grade D
Grade E or F
Grade G or below
Grade C or above in both
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
Grade D
- A one year GCSE resit course in required subject/s
Grade E or F
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
Grade G or below
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Cemegydd Dadansoddol, Technolegydd Anifeiliaid, Archeolegydd, Peiriannydd Seryddwr Gofod-deithiol, Biolegydd, Cartograffydd, Seismolegydd Maes, Gwyddonydd Fforensig, Geocemegydd, Geoffisegydd, Geowyddonydd, Hydroddaearegydd, Hydrolegydd, Technegydd Labordy, Gwyddonydd Morol, Microbiolegydd, Cemegydd Niwclear, Ymchwilydd Gweithredol, Ffisegydd Gronynnau, Ffisegydd, Bridiwr Planhigion/Genetegydd, Gwyddonydd Ymchwil, Peiriannydd Efelychydd, Gwyddonydd Pridd, Tocsicolegydd.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Modd: | |
---|---|
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Lefel: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/05/2024