Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
WJEC Level 1 Certificate Introduction to Health and Social Care
Gall gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol roi boddhad mawr, a gall eich cyflwyno i gyfleoedd lle gallwch weithio gyda rhai o’r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a’u cefnogi. Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o ba sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn gyrfa yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o’r egwyddorion theori, cyfreithiol, seicolegol, cymdeithasol ac addysgol sy’n sail i weithio’n effeithiol i ofalu, cefnogi, grymuso a datblygu eraill.
Datblygwch eich sgiliau cyfathrebu a’ch dealltwriaeth o weithio gydag unigolion amrywiol ac yn aml agored i niwed. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y dysgwyr hynny a hoffai weithio/bwriadu gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ystod y rhaglen byddwch hefyd yn meithrin eich dealltwriaeth o’r ystod o yrfaoedd yn y sector hwn.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn astudio’r unedau canlynol:
- Cyflwyniad i’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Deall arfer proffesiynol
- Datblygu sgiliau digidol ac ar-lein
- Gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gwaith
- Cyflwyniad i ymddygiad priodol yn y gweithle
- Gweithio fel rhan o dîm
- Cyflwyniad i iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Deall egwyddorion a gwerthoedd
- Deall diogelu oedolion mewn perygl
- Deall cyfathrebu effeithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Profiad Gwaith
Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch hefyd yn astudio Dyfarniad Lefel 1 VTCT mewn Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Ffi DBS Manwl - £44, yn daladwy wrth gofrestru
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
