Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Dilyniant

Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Dilyniant
Diploma Estynedig Lefel 3 CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol medrus, sy’n uchel ei barch fel proffesiwn a gyrfa o ddewis, ac sy’n cael ei gydnabod am y rôl hanfodol y mae’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei chwarae wrth gefnogi unigolion trwy gydol eu hoes.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu ehangder a dyfnder gwybodaeth yn ymwneud â’r sector iechyd a gofal cymdeithasol/gwyddoniaeth a symud ymlaen i Brifysgol neu sy’n dymuno chwilio am waith yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol.
Mae cwblhau’r Diploma Estynedig yn llwyddiannus ym mlwyddyn dau gyfwerth â thair Lefel A.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd/Gwyddoniaeth
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
- TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Dros ddwy flynedd, bydd dysgwyr yn astudio:
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun
- Tystysgrif VTCT Lefel 2 mewn Iechyd Meddwl
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun
Bydd hyn yn cwmpasu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddarparu sylfaen eang ar gyfer addysg bellach a/neu uwch neu gyflogaeth.
Bydd y cymhwyster yn cynnwys yr unedau canlynol:
- Egwyddorion gofal ac arfer diogel o fewn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion yn ystod eu hoes
- Hyrwyddo hawliau unigolion ar draws eu hoes
- Deall sut mae amodau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
- Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni eu canlyniadau dymunol
- Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
- Cefnogi iechyd a llesiant oedolion yng Nghymru i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
- Ymchwilio i faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Profiad Gwaith
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â 100 awr o ymgysylltu â chyflogwyr, gan gynnwys lleiafswm o 60 awr o leoliad gwaith. Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau’r cwrs hwn.
Bydd dysgwyr hefyd yn dechrau prosiect estynedig, i’w gwblhau ym Mlwyddyn 2.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Grade C or above in both
Grade D
Grade E or F
Grade G or below
Grade C or above in both
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
Grade D
- A one year GCSE resit course in required subject/s
Grade E or F
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
Grade G or below
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad mewnol
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cynorthwyydd Gofal Ambiwlans, Cynorthwyydd Gofal Iechyd, Gweithiwr Gofal, Gweithiwr Cymdeithasol, Gweithiwr Cefnogi, Mentor Dysgu.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Ffi DBS Manwl - £44, yn daladwy wrth gofrestru
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 23/04/2024