Lletygarwch
Diploma carlam 1/2 mewn Coginio Proffesiynol/Diploma mewn Sgiliau Gwasanaethau Bwyd a Diod Proffesiynol
Mae’r diwydiant lletygarwch yn sector amrywiol sy’n cynnig llawer o gyfleoedd gwaith ledled y DU ac yn rhyngwladol. O siop goffi annibynnol i westai moethus a llongau mordaith, mae angen cogyddion hyfforddedig a gweithwyr blaen tŷ proffesiynol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid ar y diwydiant i fodloni gofynion cynyddol cyflogwyr niferus y sector.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs blwyddyn llawn-amser hwn wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o bob sector o’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo.
Gofynion hylendid ac iechyd a diogelwch:
- Rhaid gorchuddio pob tatŵ gweladwy
- Rhaid cael gwared ar dwll-dlysau gweladwy
- Ni chaniateir gemwaith, ac eithrio modrwy briodas ac un pâr o glustdlysau stydiau
- Rhaid trin gwallt a’i glymu’n ôl
Cymhwysedd (Lefel 2)
Mae’r cwrs hwn ar gael i ddysgwyr sydd â’r gofynion mynediad ar gyfer rhaglen lefel 1 ond sy’n dangos y gallu i weithio ar safon lefel 2. Bydd angen cwblhau asesiad ymarferol yn llwyddiannus yn y 6 wythnos gyntaf er mwyn asesu gallu i fodloni gofynion sgiliau’r rhaglen garlam. Mewn achosion lle na chaiff yr asesiad hwn ei basio, bydd dysgwyr yn cwblhau rhaglen lefel 1.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i roi cipolwg i chi ar y diwydiant lletygarwch er mwyn eich galluogi i symud ymlaen i astudiaeth lefel uwch neu i gyflogaeth.
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
Coginio Proffesiynol
- Diogelwch bwyd mewn arlwyo
- Iechyd a diogelwch mewn arlwyo
- Deietau maethol ac arbennig mewn arlwyo
- Gweithrediadau cegin, costau a chynllunio bwydlenni
- Datblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch
- Paratoi a choginio:
Sawsiau, cawliau a stociau
llysiau a chorbys
cig ac offal
dofednod
pysgod a physgod cregyn
reis, pasta, grawn a seigiau wyau
pwdinau
cynhyrchion pobi
Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod
- Deddfwriaeth mewn gwasanaethau bwyd a diod
- Egwyddorion gwybodaeth am ddiodydd a chynnyrch
- Gweini diodydd poeth
- Sgiliau gweini bwyd a diod
- Gwasanaeth cwsmer
- Cynnal a delio â thaliadau
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cogydd Sous Iau, Porthor Cegin, Cogydd Pantri, Cynorthwyydd Bwyd a Diod, Prif Gogydd, Sous Chef, Cogydd Commis, Cogydd Crwst, Rheolwr dan Hyfforddiant, Chef de Partie.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
- Dillad Lletygarwch ac Arlwyo - mae hyn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £182/£186
- Set cyllyll arlwyo - mae hyn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £90
- Maneg sy'n gwrthsefyll toriad opsiynol - £9
- Dillad Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2 - £71/£76
- Mae’n bosibl y bydd angen prynu dillad ac offer Lletygarwch ac Arlwyo ychwanegol i ategu/newid y rhai presennol
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy lletygarwch o £55 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 2
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
