NVQ Cynnal a Chadw Peirianneg a Thechnegol
NVQ Cynnal a Chadw Peirianneg a Thechnegol
Llwybrau Lluosog gan gynnwys Mecanyddol, Trydanol, Gwasanaethau Technegol, Offeryniaeth, Cynnal a Chadw, Gweithgynhyrchu Lefel 2 (Canolradd) neu Lefel 3 (Uwch)
Cyflymwch eich gyrfa yn y diwydiant Peirianneg gyda’r NVQ seiliedig ar waith hwn.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheini sy’n gweithio yn y diwydiant peirianneg ac sy’n dymuno ennill cymwysterau cydnabyddedig a allai arwain at ddilyniant neu gyflogaeth. Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn arddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer mewn un o lawer o ddisgyblaethau.
Rhaid cwblhau pob cymhwyster o fewn 12 mis i gofrestru.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i ymgeiswyr Lefel 3 feddu ar gymhwyster Lefel 2 perthnasol neu o leiaf dwy flynedd o brofiad yn y diwydiant
- Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Amherthnasol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Unedau Gorfodol:
- Cydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion diogelwch sefydliadol
- Defnyddio a dehongli dogfennaeth data peirianneg
- Gweithio’n effeithlon ac effeithiol mewn Peirianneg
- Trosglwyddo a chadarnhau cwblhau gweithgareddau cynnal a chadw neu osod
Bydd unedau dewisol yn cael eu trafod yn y cyfweliad.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Ymweliadau gan eich aseswr â'ch gweithle
- Tystiolaeth gan gyflogwyr neu oruchwylwyr
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch yn yr un grefft, neu gymwysterau lefel uwch mewn rheolaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Bydd angen eich dyfais/gliniadur eich hun a chysylltiad rhyngrwyd da
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Modd: | |
|---|---|
| Lefel: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
