Rhaglen Barod am Waith Peirianneg
Rhaglen Barod am Waith Peirianneg
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
Os ydych chi dros 18 oed, yn ymarferol ac yn chwilio am yrfa newydd yn y diwydiant peirianneg, dewch yn barod am waith gyda’r cwrs ymarferol eang hwn.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs yn cynnig cyfleoedd datblygiad ar draws ystod eang o rolau peirianneg adeiladu. Bydd y cymhwyster yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen yn ddiogel i’r gweithle/cyflogaeth neu gynyddu’ch sgiliau i symud ymlaen i gymwysterau uwch yn y sector beirianneg.
Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at ddysgwyr dros 18 oed a bydd yn dechrau ym mis Tachwedd 2024.
Y cyfnod yw pum diwrnod yr wythnos am 16 wythnos.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Amherthnasol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Yn ystod y rhaglen byddwch yn cwblhau’r canlynol:
City & Guilds Lefel 2 mewn Peirianneg:
- Gweithio mewn peirianneg
- Egwyddorion technoleg peirianneg
- Egwyddorion technoleg saernïo a weldio
- Weldio trwy broses MIG
- Gwneuthuriad plât trwchus, bar ac adrannau
Rhaglen Cyn Cyflogaeth:
- CCNSG
- Offer Llaw a Phŵer
- Codi a Chario
- Gweithio ar Uchder
- Olwynion Garw
- Mynediad Mannau Cyfyng Risg Isel
Tair wythnos o brofiad gwaith gyda chyflogwr lleol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
Beth alla i ei wneud nesaf?
[text-blocks id=”default-progression-text”]
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
