Sgiliau Mynediad
Sgiliau Mynediad
Agored Cymru Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 CBAC/City and Guilds: Craidd (Oedolion)
Datblygwch eich sgiliau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i baratoi ar gyfer Mynediad i Uwch.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn nid yn unig yn paratoi dysgwyr ar gyfer ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch ond hefyd yn darparu’r cymhwyster theori craidd sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd dysgwyr yn ymchwilio i bynciau amrywiol gan gynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi, seicoleg, cymdeithaseg, anatomeg a ffisioleg, egwyddorion gofal, iechyd a lles, diogelu, iechyd a diogelwch, ac ymarfer proffesiynol. Yn ogystal, byddwch yn ennill profiad ymarferol trwy leoliadau gwaith yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol (mae cwblhau gwiriad DBS yn orfodol ar gyfer cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith).
Bydd dysgwyr hefyd yn cael y cyfle i sefyll arholiadau TGAU Saesneg a Mathemateg yn ystod y cwrs.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
- Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion)
- Egwyddorion a Gwerthoedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
- Iechyd a Lles (Oedolion)
- Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Diogelu Unigolion
- Iechyd a Diogelwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Agored Cymru Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach
- Ymchwiliad Gwyddonol: Egwyddorion ac Arfer
- Cysyniadau mewn Bioleg
- Systemau’r Corff Dynol: Systemau Treulio, Cardiofasgwlaidd ac Anadlol
- Systemau Corff Dynol: Croen, Sgerbwd a Chyhyr
- Seicoleg Iechyd
- Cymdeithaseg Teuluoedd ac Aelwydydd
- Cymdeithaseg Iechyd a Salwch
- Cyfathrebu Ysgrifenedig
- Ysgrifennu Traethodau a llên-ladrad
- Myfyrio • Profiad Gwaith
- Defnyddio cyfrifiadau: Rhifau Cyfan, Ffracsiynau, Degolion a Chanrannau
- Sgiliau Cyflwyno
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad mewnol
- Asesiad dan reolaeth
Beth alla i ei wneud nesaf?
Byddai dilyniant o’r cwrs hwn i Fynediad i Wyddoniaeth Feddygol AU neu Fynediad i Ofal Iechyd AU neu’n uniongyrchol i waith mewn Gofal Iechyd fel cynorthwyydd Gofal Iechyd.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Ffi DBS Manwl - £44, yn daladwy wrth gofrestru
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
