Technoleg Gwybodaeth
Technoleg Gwybodaeth
Diploma BTEC Lefel 1 mewn TG
Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau technoleg gwybodaeth trwy ddefnyddio dull mwy ymarferol? Ydych chi eisiau dysgu mwy am wefannau, rhaglenni cyfrifiadurol, graffeg ddigidol, cyfathrebu digidol a datrys problemau TG technegol?
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol mewn Technoleg Gwybodaeth, gan eich helpu i wella eich dysgu yn y dyfodol, boed hynny ar gyfer gyrfa TGCh neu symud ymlaen i ddewis o gymwysterau TG Lefel 2.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- One GCSE at grade D or above to include English Language/First Language Welsh or Mathematics/Numeracy
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd unedau yn cynnwys:
- Creu Gwefan – byddwch yn archwilio gwahanol fathau o wefannau ar gyfer cynulleidfa a phwrpas penodol. Byddwch yn dysgu sut i ddylunio gwefan ar gyfer cynulleidfa a phwrpas a byddwch yn datblygu sgiliau i greu cynllun priodol. Byddwch yn defnyddio offer a thechnegau i ychwanegu ymarferoldeb, fel botymau llywio a thudalennau cysylltu, fel bod y wefan yn ddeniadol ac yn hawdd ei defnyddio. Unwaith y bydd wedi’i chwblhau byddwch yn adolygu’r wefan orffenedig ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella.
- Datrys Problemau TG Technegol – byddwch yn archwilio amrywiaeth o galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol allanol fel y gallwch ddatblygu a chymhwyso sgiliau ymarferol i ddatrys problemau TG. Byddwch yn archwilio gwahanol nodweddion caledwedd a meddalwedd allanol ac yn nodi sut y gellir eu defnyddio a’u haddasu i ddiwallu anghenion defnyddwyr. Byddwch yn dysgu sut i adnabod a thrwsio problem TG ar gyfer person arall a byddwch yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu wrth ddelio â’r broblem.
- Bod yn Drefnus – bydd yr uned hon yn eich helpu i ddatblygu technegau allweddol i’ch helpu i drefnu eich gwaith a’ch blaenoriaethau a rheoli eich amser yn effeithiol. Mae’r sgiliau a ddysgwch yn yr uned hon yn allweddol ar gyfer symud ymlaen i’r cam nesaf yn eich addysg. Maent hefyd yn hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd.
- Creu Rhaglen Gyfrifiadurol – mae dylunio gemau yn faes poblogaidd o fewn y diwydiant sy’n parhau i ddatblygu cysyniadau a thechnolegau newydd, gan ddenu cynulleidfa amrywiol lawer ehangach gyda gofynion lluosog ar gyfer llwyfannau lluosog. Nod yr uned yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio hanfodion dylunio gemau. Byddwch yn caffael y sgiliau i gynhyrchu gemau o ddyluniadau gêm ac yn archwilio sut i gyfoethogi’r gemau trwy ymgorffori nodweddion ychwanegol.
- Datblygu Cynllun Cynnydd Personol – byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i symud ymlaen i gam nesaf eich dysgu, gan nodi cyfleoedd dilyniant a chreu cynllun i’ch galluogi i gyrraedd yno.
Creu Taenlen i Ddatrys Problemau – byddwch yn datblygu sgiliau i greu taenlen i’ch helpu i gyflawni gweithrediadau mathemategol fel adio, tynnu, lluosi, rhannu, cyfartaleddau a chyfansymiau. Mae meddalwedd taenlen hefyd yn eich galluogi i ddidoli data nad yw’n rhifol, gan gael y canlyniadau yr ydych yn chwilio amdanynt yn gyflym. Mae rhaglenni taenlen yn caniatáu i chi newid ymddangosiad eich gwybodaeth yn hawdd, gan gynnwys gosodiadau. - Datblygu Cynnyrch Digidol – byddwch yn dysgu sut i gynllunio a dylunio cynnyrch cyfryngau digidol gan ddefnyddio offer gweledol fel byrddau stori. Byddwch hefyd yn dysgu sut i recordio clipiau sain a fideo a’u golygu gan ddefnyddio meddalwedd golygu sain a fideo. Yna byddwch yn cyfuno’r clipiau hyn wedi’u golygu ag asedau parod (fel ffotograffau digidol) i greu cynnyrch amlgyfrwng cyflawn.
- Creu Graffeg Animeiddiedig Digidol – byddwch yn archwilio’r defnydd o graffeg ddigidol ac animeiddio a’r nodweddion a ddefnyddir i greu cynnwys digidol effeithiol a phriodol. Byddwch yn datblygu sgiliau defnyddio offer meddalwedd graffeg ac animeiddio i ddod o hyd i, golygu a chreu graffeg animeiddiedig digidol at ddiben penodol.
- Gweithio gydag Eraill – bydd yr uned hon yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau a fydd yn eich galluogi i weithio’n effeithiol gyda phobl eraill ar weithgaredd penodol.
- Ymchwilio i Bwnc – cewch gyfle i ymchwilio i bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Gallai fod yn gysylltiedig â rhywbeth yr ydych wedi’i fwynhau yn eich sector, rhywbeth sy’n digwydd yn eich cymuned leol neu efallai’n gysylltiedig â’r hyn yr hoffech ei wneud yn y dyfodol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae dilyniant yn bosibl i ddewis o ddau gwrs Lefel 2 mewn disgyblaeth gysylltiedig, fel Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol neu Gyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- A memory stick/a small portable USB hard drive
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- No tuition fee
- We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
