Teithio a Thwristiaeth
Teithio a Thwristiaeth
Diploma Lefel 2 NCFE mewn Teithio a Thwristiaeth
Ydy archwilio a darganfod gwledydd a diwylliannau newydd yn eich cyffroi? Gallai’r cwrs hwn fod yn ddechrau gyrfa werth chweil ac ysgogol yn y Diwydiant Teithio a Thwristiaeth, wrth feithrin hyder, cael hwyl a dysgu mewn ffordd newydd, amrywiol a rhyngweithiol.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Trwy amrywiaeth o weithgareddau gwaith tîm, dod i wybod am gyrchfannau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac ymchwilio i’r hyn y mae’r diwydiant Twristiaeth yn ei olygu, byddwch yn teimlo’n ddigon parod i symud i gam nesaf eich dysgu a’ch datblygiad.
Cynhelir y cwrs blwyddyn hwn dros pedwar diwrnod yr wythnos yn y Coleg trwy gydol y flwyddyn academaidd.
Yn ogystal â hyn, byddwch yn ymgymryd â phrofiad gwaith yn y diwydiant twristiaeth. Fel rhan o’r cwrs bydd gofyn i chi gwblhau o leiaf 100 awr o brofiad gwaith trwy gydol y flwyddyn academaidd.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Tri chymhwyster TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd D neu uwch
- neu dystiolaeth o welliant o TGAU/au mewnol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cymhwyster yn cyfuno gwybodaeth theori â’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio o fewn y sector.
Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Gwasanaeth Cwsmeriaid: Byddwch yn deall pwysigrwydd diwallu anghenion cwsmeriaid a gwahanol fathau o gyfleusterau a gwasanaethau. Byddwch yn dangos sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a sut i ddelio â sefyllfaoedd heriol.
- Diwydiant Teithio a Thwristiaeth y DU: Byddwch yn deall strwythur diwydiant teithio a thwristiaeth y DU yn ogystal â’r gwahanol fathau o sefydliadau. Byddwch yn deall y ffactorau yn natblygiad diwydiant teithio a thwristiaeth y DU a chyfleoedd swyddi perthnasol yn y sector.
- Cyrchfannau: Byddwch yn deall cyrchfannau teithio a thwristiaeth yn y DU a ledled y byd ac yn deall beth sy’n denu twristiaid i gyrchfannau.
- Hyrwyddo mewn Teithio a Thwristiaeth: Byddwch yn deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar weithgarwch hyrwyddo ym maes teithio a thwristiaeth, yn creu deunydd hyrwyddo ar gyfer teithio a thwristiaeth, ac yn adolygu deunydd hyrwyddo a gynhyrchir.
- Lletygarwch: Byddwch yn deall sut mae gwahanol ddarparwyr lletygarwch yn cynnig gwahanol gynhyrchion a gwasanaethau, yn deall rôl gwahanol fathau o staff gwasanaeth cwsmeriaid lletygarwch, ac yn deall y sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid sydd eu hangen ym maes lletygarwch.
- Trefnu Digwyddiad: Byddwch yn archwilio gwahanol fathau o ddigwyddiadau a phwysigrwydd digwyddiadau a chynadleddau i economi’r DU. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn trefnu digwyddiad ac yn adolygu eich cyfraniad.
- Cyflwyniad i Deithiau Tywys: Byddwch yn deall rôl tywysydd, yn deall cydrannau taith dywys, a byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno taith dywys.
- Twristiaeth Arbenigol: Byddwch yn deall agweddau ar dwristiaeth arbenigol megis gwirfoddoli, antur, chwaraeon, tywyll, a meddygol. Yna byddwch yn ymchwilio i gyrchfannau twristiaeth addas.
- Profiad Gwaith: 100 awr drwy gydol y flwyddyn academaidd
Bydd ffocws ar sgiliau llythrennedd a rhifedd ynghyd â datblygu eich gwybodaeth am faterion cynaliadwy, dinasyddiaeth, dwyieithrwydd, menter a diwylliant Cymru. Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu tiwtorialau hefyd.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
Beth alla i ei wneud nesaf?
Bydd y cwrs yn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i raglen Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 neu i gyflogaeth.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Costau cludiant ar gyfer lleoliad gwaith
- Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
- Bydd angen i chi dalu £30 tuag at ymweliadau addysgol
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
