Yn ddiweddar dyfarnwyd Gwobr Llythrennedd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i Michaela Protheroe, myfyriwr Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach.
Michaela â’r Coleg er mwyn cyflawni ei TGAU mewn Saesneg a Mathemateg cyn gobeithio symud ymlaen i’r rhaglen Mynediad at Biowyddoniaeth fel cam tuag at brifysgol.
Ar ôl gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau i fagu dau o blant, roedd Michaela wrth ei bodd bod ei hymdrechion yn cael eu cydnabod gyda’r Wobr Llythrennedd y bydd hi’n ei defnyddio i brynu llyfrau a gliniadur i helpu gyda’i hastudiaethau yn y dyfodol.
Wedi’i sefydlu ym 1993, mae Cwmni Anrhyddeddus Lifrai Cymru (WLCOW) yn hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru. Mae’n ymroddedig i helpu pobl ifanc i ddatblygu eu doniau a’u sgiliau trwy raglen wobrwyo flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol ledled Cymru, yn ogystal ag i brentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.