Mae Coleg Sir Benfro wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar am ei waith i gynorthwyo staff a myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, gan sicrhau Gwobr Efydd yn y Cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr.
Wedi’i gyflenwi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’i gefnogi gan ei awdurdod lleol a phartneriaid yn y trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr wedi’i gynllunio i helpu iechyd, gofal cymdeithasol a sefydliadau eraill i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth o ofalwyr ac i wella’r help a’r gefnogaeth y gallant eu cynnig i ofalwyr.
Cyflwynodd Pennie Muir, Arweinydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, y wobr i Judith Evans, Swyddog Diogelu a Lles Coleg Sir Benfro, a gwnaeth sylwadau ar gyflawniad y Coleg gan ddweud, “Mae Coleg Sir Benfro wedi cael ei gydnabod am ei ymrwymiad i gefnogi gofalwyr di-dâl a’u teuluoedd o fewn eu dau gymuned, sef eu myfyrwyr a’u staff.
“Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol i helpu cyfleusterau iechyd fel meddygfeydd teulu, meysydd mewn ysbytai a sefydliadau eraill i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth o ofalwyr a gwella’r help a’r gefnogaeth y maent yn eu rhoi i ofalwyr di-dâl o bob oed. Mae’r Cynllun wedi’i ehangu i leoliadau addysg gan gynnwys ysgolion uwchradd a cholegau. Mae Coleg Sir Benfro yn ymuno â’r ddau Goleg arall yn rhanbarth gorllewin Cymru i fod wedi cyflawni’r lefel hon.”
Mae tua 30,000 o ofalwyr o dan 25 oed yng Nghymru gyda gofalwr yn cael ei ddiffinio fel rhywun sy’n darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl.
Mae Coleg Sir Benfro wedi ymrwymo i fynd ati i geisio nodi a chefnogi gofalwyr ifanc ac i ddarparu’r adnoddau a’r gefnogaeth orau bosibl i sicrhau y gallant barhau i astudio ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.
Mynegodd Judith ei bod yn foment fawr ac yn gam cadarnhaol ymlaen i gefnogi’r gofalwyr ifanc hyn: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyflawni Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Rydyn ni wedi gweithio’n galed i ddatblygu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i’n dysgwyr a’n staff sydd â chyfrifoldebau gofalu. Rydyn ni’n teimlo bod y newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud i’w cefnogi eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac mae ganddyn nhw syniadau ar gyfer datblygiadau pellach yn y dyfodol. Mae’r tîm Buddsoddwyr mewn Gofalwyr wedi bod mor barod i helpu, gan ddarparu syniadau, adnoddau a gwybodaeth i ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y dyfodol.”