Gofal Anifeiliaid
Gofal Anifeiliaid
Diploma Technegol BTEC Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant anifeiliaid ac sydd eisiau dysgu am ofal sylfaenol a rheolaeth anifeiliaid.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Byddwch yn treulio amser yng Nghanolfan Anifeiliaid Llwynhelyg lle byddwch yn dysgu sut i ofalu am ystod eang o anifeiliaid gan gynnwys rhywogaethau cydymaith ac egsotig. Byddwch yn dysgu trwy ddefnyddio gwerslyfrau, cyfeirlyfrau a’r rhyngrwyd yn ogystal ag ymgymryd â thasgau ymarferol a mynychu darlithoedd ac arddangosiadau i gael dealltwriaeth drylwyr o’r testunau sy’n cael eu hastudio.
Mae’r cwrs hwn wedi’i leoli ar brif gampws y coleg, yng Nghanolfan Dysgu John Burns, Llwynhelyg ac yn Ysgubor Fferm Willhome. Ceir cludiant i ac o Ganolfan Dysgu John Burns ar fws gwennol o brif gampws y Coleg. Bydd dysgwyr yn treulio’r diwrnod cyfan ar y safle. Bydd ymweliadau ag Ysgubor Fferm Willhome yn digwydd ar ddyddiadau a drefnwyd ymlaen llaw a bydd dysgwyr yn cael eu cludo yno ar fysiau mini’r coleg.
Fel rhan o’r cwrs byddwch yn gallu ymgymryd â phythefnos o brofiad gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith gan roi profiad gwerthfawr a mewnwelediad i’r diwydiant i chi.
I ddilyn y cwrs hwn bydd angen i chi fod yn ofalgar, yn gyfrifol ac yn gallu gweithio’n unigol ac fel rhan o grŵp.

Beth yw'r gofynion mynediad?
- Tri chymhwyster TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd/Gwyddoniaeth
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd yr unedau a astudir yn cynnwys:
- Iechyd anifeiliaid ymarferol
- Cyflwyniad i fioleg ac iechyd anifeiliaid
- Lleoliad gwaith gofal anifeiliaid
- Lles anifeiliaid
- Asesu ymddygiad anifeiliaid a thrin yn ddiogel
- Bwydo, lletya a symud anifeiliaid
Yn eich sesiynau ymarferol byddwch yn dysgu sut i drin, gwirio iechyd a bwydo amrywiaeth o anifeiliaid, yn ogystal â glanhau a chynnal a chadw eu llety.
Bydd eich sesiynau theori yn cynnwys pynciau fel dysgu am fioleg yr anifeiliaid, clefydau, cymorth cyntaf anifeiliaid, cynllunio llety a lles anifeiliaid.
Yn ogystal, byddwch yn dysgu am y diwydiant tir/gofal anifeiliaid ac yn ymgymryd â lleoliad gwaith.
Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu tiwtorialau rheolaidd.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Gwaith aseiniad
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at nifer o gyfleoedd gyrfaol gan gynnwys: Gweithiwr Cenel, Hyfforddwr Cŵn, Trwsiwr Anifeiliaid Anwes, Triniwr Cŵn, Ceidwad Cefn Gwlad, Swyddog Lles Anifeiliaid, Gweithiwr Canolfan Gofal Anifeiliaid/Achub, Gwarchodwr Anifeiliaid Anwes, Cynorthwyydd Siop Anifeiliaid Anwes, Derbynnydd Milfeddygol.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth berthnasol i chi i symud ymlaen i gyflogaeth mewn meysydd fel nyrsio milfeddygol, gwaith cenel/cathod, cadw sw, gwaith fferm/parc a thrin anifeiliaid ac ati.
Ar ôl cwblhau’r cwrs gallai myfyrwyr symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Argymhellir bod eich brechiad Tetanws ac unrhyw frechiadau priodol eraill yn gyfredol cyn dechrau gweithio gydag anifeiliaid neu yng nghefn gwlad
- Dillad Gofal Anifeiliaid/Rheoli i gynnwys dillad gwrth-ddŵr (lliwiau tywyll) ac esgidiau blaen traed dur/gwelïau glaw
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy anifeiliaid o £35 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
