Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Diploma Estynedig Lefel 3 UAL mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol
Os ydych yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant, bydd y cwrs hwn yn eich arwain trwy bob agwedd ar y broses ddylunio a chynhyrchu, gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol i wireddu canlyniadau terfynol. Mae’r cwrs wedi’i anelu at ddatblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen i ymdopi â swyddi sy’n gofyn llawer ond sy’n rhoi boddhad mawr, a bydd cyfle i chi fod yn rhan o brosiectau byw byr a chystadlaethau.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs hwn yn darparu’r rhai sydd â diddordeb mewn dylunio, animeiddio, cyfryngau a chymwysiadau rhyngweithiol â’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn rhan o’r diwydiannau creadigol sy’n ehangu’n gyflym.
Mae gan y cwrs gysylltiadau â chyflogwyr lleol a chenedlaethol ym meysydd y cyfryngau, dylunio, hysbysebu a datblygu gwe. Mae prosiectau byr byw, ymweliadau â stiwdios, cymryd rhan mewn cynadleddau a chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith i gyd yn rhan o’r cwrs, a byddwch yn cael cipolwg uniongyrchol ar yr opsiynau dilyniant sydd ar gael yn y diwydiant cyfryngau creadigol.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy at grade D or above
- A portfolio/examples of work will be required for this course
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Successful completion of relevant Level 2 programme with a merit grade or above in addition to a successful decision from progression board meeting
- GCSE English Language/First Language Welsh at grade C or above
- GCSE Mathematics/Numeracy at grade D or above
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Wedi’u cyflwyno dan y corff dyfarnu University Arts London, bydd ein Diplomâu Estynedig Lefel 3 yn rhoi’r un pwyntiau mynediad UCAS i chi â 3 chymhwyster Lefel-A.
Mae’r Diploma Estynedig yn cynnwys prosiectau fel:
- Animeiddio 2D a 3D
- Gwneud ffilmiau dogfen a naratif
- Golygu Fideo a Sain
- Cynhyrchu podlediadau
- Egwyddorion a chymwysiadau cyfryngau cymdeithasol
- Dylunio gwefan ac ap
- Delweddu cysyniad a 3D ar gyfer animeiddio, hapchwarae a ffilm
Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu:
- Gwybodaeth am gysyniadau sylfaenol y broses ddylunio
- Sgiliau meddalwedd cyfrifiadurol
- Dealltwriaeth o agweddau damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol animeiddio a gwneud ffilmiau
- Sgiliau cyfathrebu gweledol trwy gyfryngau fel ffotograffiaeth, delwedd symudol, lluniadu digidol a graffeg symud
Disgwyliwch hefyd:
- Gymryd rhan mewn prosiectau a chystadlaethau byr byw
- Creu dyddlyfrau digidol yn cofnodi ac yn myfyrio ar ddatblygiad eich gwaith
- Datblygu syniadau creadigol
- Ysgrifennu gwerthusiadau beirniadol o’ch ymarfer creadigol eich hun ac eraill
- Astudio dyluniad hanesyddol a chyfoes i lywio eich ymarfer eich hun
- Cysylltu â chyflogwyr trwy weithgareddau creadigol ac ymweliadau
Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn dysgu trwy arddangosiadau ymarferol a darlithoedd yn ogystal ag aseiniadau seiliedig ar waith a phrosiectau ymchwil.
Yn ystod yr ail flwyddyn bydd dysgwyr yn astudio Cymhwyster Prosiect Estynedig (CPA) CBAC – wedi’i raddio fel lefel AS, gall ddarparu pwyntiau UCAS ychwanegol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Portfolio of evidence
- Completion of a final major project
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Hysbysebu, Dylunio Gwefannau, Animeiddio, Ffilm a Theledu, Effeithiau Gweledol, Marchnata Digidol a Dylunio Gemau.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cais i brifysgol i astudio ystod eang o raglenni lefel gradd sy’n ymwneud â’r celfyddydau creadigol. Fel arall, byddwch wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen i chwilio am waith ar lefel iau mewn maes cysylltiedig.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- Text books - you will be told about any specific items before you start the course, most text books are available to loan from the college library or online libraries
- You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
- Art materials - you will be told about any specific items during or before you start the course
- A memory stick/a small portable USB hard drive
- A scientific calculator
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- No tuition fee
- We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
- You will need to pay a £70 art workshop fee each year before you start the course
- You can rent a locker for £10 per year this will be refunded if the locker remains undamaged and keys are returned
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
