Celf – Celfyddyd Gain
Celf – Celfyddyd Gain
Celfyddyd Gain Lefel-A
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer y rhai sy’n dymuno archwilio potensial lluniadu a phaentio trwy astudiaeth arsylwi. Gall hwn fod yn brofiad cyffrous a chyflym ond mae angen agwedd ymroddedig at ddysgu ac ymddiriedaeth yng nghyngor eich darlithwyr.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- Celf gradd B (neu bortffolio addas o waith)
- Please check the AS Level Options Grid to see if this subject fits into your chosen programme
- Bydd angen dod â phortffolio/enghreifftiau o waith ar gyfer y cwrs hwn
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn astudio ac yn dadansoddi gwaith artistiaid eraill ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfoethogi a dylanwadu ar eich gwaith eich hun. Mae hyn yn ffurfio cyfran fawr o’r strwythur asesu.
Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Darganfod beth yw lluniadu a phaentio a beth all fod
- Beth yw astudiaeth arsylwadol dda
- Gweithio yn y stiwdio
- Defnydd o elfennau ffurfiol – llinell, tôn, lliw, marc
- Defnydd o amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau
- Dealltwriaeth o astudiaeth gyd-destunol
- Trafod a gwerthuso canlyniadau trwy feirniadaeth
- Mynegi syniadau ac archwilio pynciau yn weledol
- Ymchwilio i bwnc trwy gyfres
- Symud o A4 i A1 yn gyflym ac yn bwrpasol
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
- A one year GCSE resit course in required subject/s
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Cyfarwyddwr Celf Hysbysebu, Therapydd Celf, Rheolwr Oriel Gelf Fasnachol, Gweithiwr Celfyddydau Cymunedol, Cadwraethwr, Dylunydd Arddangosfeydd, Artist Cain, Dylunydd Graffeg, Darlunydd, Swyddog Arddangosfeydd Amgueddfa/Oriel, Gwneuthurwr Printiau, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Modd: | |
|---|---|
| Lefel: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
