
Bwyd a Diod
PETHAU I WNEUD
GWYBODAETH DDEFNYDDIOL
Yn y Coleg mae dewis o opsiynau ar gyfer bwyd a diod:
Ffreutur Chartwells
Mae’r prif ffreutur wedi’i leoli yn yr atriwm ac mae’n gweini brecwast o 08:30 i 11:00 a chinio rhwng 11:45 a 14:00.
Mae’n cynnig amrywiaeth o opsiynau poeth ac oer gan gynnwys brechdanau, saladau, paninis, tatws pob ac amrywiaeth o ginio poeth.
Mae’r fwydlen yn newid yn ddyddiol ac yn darparu ar gyfer gofynion dietegol amrywiol.
Bwyty SEED a Siop Goffi
Mae’r Bwyty a’r Siop Goffi ar agor bob dydd rhwng 10:00 a 14:00.
Mae’r bwyty sy’n cael ei redeg gan ein myfyrwyr lletygarwch yn darparu gwerth am arian rhagorol ac mae’n ddewis amgen gwych i’r ffreutur.
Siop Little Fresh
Mae Little Fresh wedi’i leoli yn y prif atriwm ac mae’n darparu ystod eang o fyrbrydau gan gynnwys teisennau, brechdanau, byrbrydau poeth gan gynnwys opsiynau fegan yn ogystal â melysion a diodydd.
Mae’r siop hefyd yn gwerthu amrywiaeth o ddeunydd ysgrifennu. Oriau agor yw 08:20 i 17:00.
Starbucks
Mae Starbucks wrth ymyl Little Fresh ac yn gweini diodydd poeth ac oer rhwng 08:30 a 16:00.
Beth am gychwyn eich diwrnod gyda Frappuccino neu Siocled Poeth!