Group of students standing in hall.

Dod o Hyd i'ch Ffordd o Gwmpas y Coleg

Mae prif gampws y Coleg yn weddol fawr ond mae’n annhebygol y bydd angen i chi ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y cyfan. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n defnyddio rhannau penodol o’r Coleg, er enghraifft bydd myfyrwyr gwaith coed yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y Ganolfan Adeiladu tra bydd myfyrwyr lletygarwch yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y gegin a’r bwyty. Byddwch yn dod i adnabod eich ffordd o gwmpas yn fuan ond dyma rai awgrymiadau.

Ar y prif gampws mae pedwar adeilad:

  • Prif Adeilad y Coleg
  • Canolfan Adeiladu
  • Canolfan Beirianneg/Weldio
  • Canolfan Arloesi Technoleg sy’n cael ei alw y TIC

Mae arwyddion ym mhob rhan o’r adeilad ond dyma rai awgrymiadau syml i’ch helpu. Bydd gan bob rhif ystafell o leiaf un llythyren o’i flaen. Mae’r llythyren yn union cyn y rhif yn dweud wrthych ar ba lawr y mae’r ystafell:

L = Ystafelloedd llawr is
G = Ystafelloedd llawr gwaelod
F = Ystafelloedd llawr cyntaf
S = Ystafelloedd ail lawr

Nid oes gan ystafelloedd yn y Prif Adeilad ail lythyren felly os mai dim ond un lythyren sydd cyn rhif yr ystafell rydych yn gwybod bod yr ystafell yn y prif adeilad a does ond angen dod o hyd i’r llawr cywir.

Bydd ystafelloedd yn y Ganolfan Adeiladu yn dechrau gydag C, yna’r llythyren llawr. Bydd ystafelloedd yn y Ganolfan Beirianneg/Weldio yn dechrau gydag E, tra bod ystafelloedd yn y TIC yn dechrau gyda T ac yna’r llythyren llawr. Er enghraifft: Mae TF1.18 yn golygu bod yr ystafell yn y TIC (T), ar y Llawr Cyntaf (F), Ystafell 18 (18).

Yn y prif adeilad, yn lle llythyren ychwanegol mae rhif ychwanegol, sy’n dweud wrthych ym mha goridor mae’r ystafell. Y prif rai yw 1, 5, 6 a 7. Felly yn y prif adeilad bydd gennych y llythyren llawr, ac yna rhif y coridor, yna rhif yr ystafell. Er enghraifft: os ydych yn chwilio am yr ystafell gyfrifiaduron yn F7.4 byddwch yn mynd i fyny’r grisiau i’r Llawr Cyntaf (F), chwiliwch am goridor F7, yna dewch o hyd i ystafell rhif 4.

Peidiwch â phoeni, mae llawer o staff o gwmpas bob amser i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd.

Mae gennym hefyd ddwy Ganolfan Gofal Anifeiliaid, un yn Llwynhelyg ac un yn Fferm Folly. Mae’r rhain yn llawer haws dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas!