
Cwestiynau Cyffredin Cofrestru
PETHAU I WNEUD
GWYBODAETH DDEFNYDDIOL
Dyma atebion i rai cwestiynau cyffredin. Os oes gennych gwestiwn sydd heb ei ateb yma, e-bostiwch: derbyniadau@colegsirbenfro.pembrokeshire-college.webboxdemo.co.uk neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod.
Cyn Dechrau yn y Coleg
Sut le yw'r Coleg?
Mae’r coleg yn wahanol i’r ysgol gan nad oes cloch Ysgol. Rydych chi’n galw eich athrawon wrth eu henwau cyntaf ac rydych chi’n cael mwy o gyfrifoldeb am eich dysgu eich hun. Mae’r coleg yn amgylchedd mwy aeddfed ac yn garreg gamu i gyflogaeth, prentisiaeth neu astudiaeth bellach yn y brifysgol.
Ydy hi'n anodd gwneud ffrindiau?
Rydyn ni’n gwybod mai un o’r pryderon mwyaf am ddod i’r Coleg yw na fyddwch chi’n adnabod unrhyw un. Peidiwch â phoeni, mae pawb yn yr un cwch sy’n golygu bod gwneud ffrindiau yn llawer haws nag y byddech chi’n meddwl. Bydd eich tiwtoriaid hefyd yn helpu drwy sicrhau bod pawb ar yr un cwrs yn dod i adnabod ei gilydd yn ystod y dyddiau cyntaf.
Cofrestru a Dechrau yn y Coleg
Pryd ydw i'n cofrestru?
Bydd cofrestru’n digwydd ar-lein trwy’r Porth Ymgeisio OnTrack unwaith y byddwch wedi lanlwytho llun o’ch slip canlyniadau TGAU. Byddwch yn darganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am gofrestru trwy glicio trwy’r dolenni yn yr Hwb Cofrestru hwn.
Sut ydw i'n uwchlwytho fy nghanlyniadau?
- Tynnwch lun o’ch canlyniadau (gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr adran enw)
- Mewngofnodi i Porth Ymgeisio OnTrack – bit.ly/3Af61Uw
- O’r ddewislen (chwith uchaf) dewiswch Tystiolaeth
- Dewiswch Canlyniadau ar gyfer Math o Dystiolaeth
- Dewiswch eich llun a cliciwch LANLWYTHO
Beth allaf ei wneud os na allaf lanlwytho fy nghanlyniadau?
Os na allwch lanlwytho’ch canlyniadau trwy’r Porth Ymgeisio OnTrack gallwch e-bostio llun o’ch slip canlyniadau TGAU i’n tîm derbyn.
Beth os na chefais y graddau yr oedd eu hangen arnaf ar gyfer fy nghwrs?
Yn gyntaf, peidiwch â phoeni, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu i ddod o hyd i’r cwrs iawn i chi. Parhewch i lanlwytho eich graddau drwy’r Porth Ymgeisio OnTrack.
Os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau gofynnol, efallai y cewch gynnig lle ar gwrs lefel is (os yw ar gael). Byddwn mewn cysylltiad i roi gwybod i chi beth sy’n digwydd.
Os yw eich graddau ymhell o fod yr hyn roedd ei angen arnoch, peidiwch â phoeni. Parhewch i lanlwytho eich canlyniadau drwy’r Porth Ymgeisio OnTrack neu e-bostiwch nhw i derbyniadau@colegsirbenfro.pembrokeshire-college.webboxdemo.co.uk a bydd ein tîm Derbyn yn cysylltu â chi.
A allaf newid fy nghwrs?
Os nad ydych yn siŵr eich bod wedi dewis y cwrs cywir, cysylltwch â’n tîm Derbyniadau cyfeillgar cyn gynted â phosibl. Byddant yn gallu rhoi rhywfaint o gyngor ac arweiniad diduedd i chi a siarad â chi am eich opsiynau a chyrsiau eraill a allai fod ar gael. Po gyntaf y byddwch yn cysylltu, y mwyaf tebygol y byddwn yn gallu dod o hyd i ddewis arall addas i chi.
E-bostiwch: derbyniadau@colegsirbenfro.pembrokeshire-college.webboxdemo.co.uk neu ffoniwch: 0800 9 776 788
Pryd fyddaf yn gwybod fy mod wedi cael fy nerbyn?
Unwaith y byddwch wedi lanlwytho eich canlyniadau (neu eu hanfon mewn e-bost atom) caiff eich canlyniadau eu gwirio.
Gan y bydd gennym lawer o ganlyniadau i’w gwirio, caniatewch o leiaf ddau ddiwrnod gwaith llawn cyn cysylltu â’r Coleg i wirio cynnydd eich cofrestriad.
Ar ôl gwirio:
- Os ydych wedi bodloni amodau eich cynnig, byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod i chi am eich diwrnod cyntaf yn y Coleg.
- Os nad ydych wedi cyflawni’r canlyniadau roedd eu hangen arnoch, byddwn yn cysylltu â chi i siarad am eich opsiynau.
- Os yw’ch graddau ymhell o fod yr hyn roedd ei angen arnoch, peidiwch â phoeni, lanlwythwch eich canlyniadau a bydd un o’n Tîm Derbyn yn cysylltu â chi i siarad am gyrsiau amgen.
Sut mae cael tocyn bws?
Byddwch yn cael eich tocyn bws yn ystod wythnosau cyntaf y tymor. Mae’r gyrwyr bysiau yn ymwybodol o hyn a byddant yn gadael i chi fynd ar y bws heb un.
Dyma’r Amserlen Bws dros dro – gall hyn newid ar gyfer mis Medi, felly gwiriwch yma am fersiwn wedi’i diweddaru.
Sut mae gwneud cais am LCA?
Mae gwneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn hawdd, gallwch:
- wneud cais ar-lein trwy gais LCA Cyllid Myfyrwyr Cymru
- neu cysylltwch â’n Swyddog Cyllid Myfyrwyr am ffurflen bapur: s.finance@pembrokeshire-college.webboxdemo.co.uk / 01437 753 134 neu casglwch un ar eich diwrnod cyntaf oddi wrth ein Swyddog Cyllid Myfyrwyr
Pryd mae'r Coleg yn dechrau?
I ddod i arfer â’r Coleg, a dechrau dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas, eich diwrnod cyntaf yn y Coleg fydd dydd Llun 2 Medi neu ddydd Mawrth 3 Medi yn dibynnu ar eich cwrs.
Anfonir e-bost atoch gyda’r dyddiad y mae angen i chi fynychu. Mae’n bwysig eich bod yn mynychu i ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod yn barod i ddechrau eich cwrs yr wythnos ganlynol. Byddwch hefyd yn cael eich amserlen i wybod pa ddiwrnodau y mae angen i chi fod yn y Coleg.
Rwy'n fyfyriwr ail flwyddyn. Pryd ydw i'n dechrau nôl?
Mae myfyrwyr ail flwyddyn yn dechrau nôl o ddydd Mercher 4 Medi. Byddwch yn derbyn e-bost o faes eich cwrs gyda’r union ddyddiad.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda mi?
Ar eich diwrnod cyntaf yn y Coleg rydym yn eich cynghori i ddod â deunydd ysgrifennu sylfaenol ac unrhyw beth y gofynnwyd i chi ei brynu ar gyfer eich cwrs neu unrhyw beth y cynghorwyd i chi ddod gyda chi ar y Diwrnod Pontio.
Oes angen gwisg ysgol ar gyfer fy nghwrs?
Er nad oes gwisg Coleg, bydd rhai cyrsiau fel peirianneg, trin gwallt a harddwch, chwaraeon a lletygarwch yn gofyn i chi brynu gwisg benodol neu oferôls cyn dechrau eich cwrs.
Cliciwch ar y ddolen berthnasol i’ch cwrs o’r Dudalen Gartref Cofrestru i weld a oes angen gwisg ar gyfer eich cwrs.
Oes angen i mi dalu unrhyw ffioedd cyn dechrau yn y Coleg?
Mae gan rai cyrsiau ffioedd i’w talu, gallai’r rhain fod yn ffioedd gweithdy, offer neu wiriadau DBS.
Cliciwch ar y ddolen berthnasol i’ch cwrs o’r Dudalen Gartref Cofrestru i weld a oes angen unrhyw beth ar gyfer eich cwrs.
Unwaith yn y Coleg
A fydd yn rhaid i mi ailsefyll fy TGAU Mathemateg/Saesneg?
Os na fyddwch yn ennill gradd C mewn Mathemateg/Rhifedd a/neu Saesneg, bydd angen i chi naill ai ailsefyll neu uwchsgilio i ennill gradd uwch. Byddwn yn sicrhau eich bod wedi cofrestru ar y rhaglen berthnasol unwaith y byddwch wedi dechrau eich prif gwrs yn y Coleg.
Oes rhaid i mi brynu gliniadur fy hun?
Fe’ch cynghorir i gael gliniadur i’ch galluogi i astudio gartref (bydd adnoddau arbenigol fel Macs a meddalwedd fel CAD a rhaglennu cyfrifiadurol ar gael pan fyddwch yn y Coleg). Gallwch ddarllen y dudalen Dewch â’ch Dyfais Eich Hun i gael gwybod beth rydym yn ei argymell. Tra yn y Coleg gallwch fenthyg gliniadur o un o’r loceri gliniaduron sydd wedi’u lleoli yn yr atriwm uchaf ger y Ddesg Gymorth TG.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru a bod gennych gyfrif TG gweithredol byddwch yn gallu gosod y gyfres Microsoft Office am ddim, ar ddyfeisiau addas.
Sut mae gweld fy amserlen?
Byddwch yn derbyn eich amserlen unwaith y byddwch yn dechrau yn y Coleg ym mis Medi.
Un o’r ffyrdd hawsaf o gael mynediad at hwn yw trwy Ap Microsoft SharePoint. Unwaith y bydd gennych eich ID Myfyriwr byddwch yn gallu mewngofnodi a chael mynediad at lawer iawn o wybodaeth a dolen i’ch amserlen.
Yn ystod ychydig wythnosau cyntaf y tymor, gall amserlenni newid, felly mae’n bwysig eich bod yn gwirio’ch amserlen yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn mynd i’r ystafell gywir.
Gawn ni fynd oddi ar y safle pan fydd gennym amser rhydd?
Efallai y gwelwch fod gennych lawer o wersi ar rai dyddiau a dyddiau eraill y byddwch yn cael mwy o gyfnodau rhydd. Cymerir cofrestri ar ddechrau pob sesiwn ond os oes gennych amser rhydd nid oes angen i chi aros ar y safle er ein bod yn cynghori myfyrwyr i ddefnyddio eu hamser rhydd i ddal i fyny ar astudio ac aseiniadau
Oes unrhyw leoedd i astudio yn ystod fy amser rhydd?
Mae llawer o ardaloedd o amgylch y Coleg lle gallwch astudio gan gynnwys y llyfrgell a’r atriwm uchaf. Mae yna hefyd leoedd yn y Ganolfan Adeiladu a’r Ganolfan Arloesi Technoleg (TIC).
Ble alla i gael cymorth gyda fy nghwrs?
Mae gennym ni amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth a diogelu sydd ar gael i’n holl fyfyrwyr, p’un a ydych chi yma yn llawn amser, un diwrnod yr wythnos neu hyd yn oed dim ond am ychydig oriau’r wythnos, bydd gennych chi fynediad at ein holl wasanaethau cymorth a diogelu.
Gallwch gael gwybodaeth am rywfaint o’n cymorth ar ein tudalen we Cymorth i Fyfyrwyr neu ein tudalen Cymorth i Fyfyrwyr Dysgu Seiliedig ar Waith.
Pan fyddwch yn y Coleg gallwch ymweld â’r Hwb lle bydd staff yn gallu eich helpu.