Young hand holding and helping an elder.

Cofrestru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yma rydym wedi casglu ynghyd fanylion am sut i gofrestru, ac yna rhywfaint o wybodaeth y gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi cyn dechrau yn y Coleg ym mis Medi.

Sut i Gofrestru

Mae angen i chi gofrestru cyn gynted â phosibl ar ôl i chi dderbyn eich Canlyniadau TGAU ym mis Awst.

Os na chewch y canlyniadau yr oeddech wedi gobeithio amdanynt, neu os ydych wedi newid eich meddwl am y cwrs yr ydych wedi gwneud cais amdano, cysylltwch â’n tîm Derbyn acyn gynted â phosibl – maent yma i helpu.

Sylwch: os ydych wedi bod yn fyfyriwr yn y Coleg o’r blaen, nid oes angen i chi uwchlwytho’ch canlyniadau.

1. Gwiriwch eich cyfeiriad e-bost

Gwiriwch eich cyfeiriad e-bost o dan Manylion Personol ar OnTrack (gan ddefnyddio'r ddolen isod) a'i ddiweddaru os oes angen.

Eich enw defnyddiwr yw rhan gyntaf eich cyfeiriad e-bost (cyn y symbol '@') a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch chi greu eich cyfrif OnTrack. Byddwch hefyd yn dod o hyd iddo ar yr e-bost cofrestru a anfonwyd atoch. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch glicio ar ‘forgot password’ i greu un newydd.

2. Lanlwythwch eich canlyniadau

Os ydych yn disgwyl canlyniadau TGAU yr haf hwn, tynnwch lun clir yn dangos y slip canlyniadau cyfan (gan gynnwys eich enw) a lanlwythwch eich canlyniadau i adran dystiolaeth OnTrack lle byddant yn cael eu gwirio. Gwyliwch y fideo byr Canllaw Sut-I hwn, os oes angen help arnoch.

Yna caiff eich canlyniadau eu gwirio a:
1 - Os ydych wedi bodloni amodau eich cynnig, byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod i chi am eich diwrnod cyntaf yn y Coleg.
2 - Os nad ydych wedi cyflawni'r canlyniadau roedd eu hangen arnoch, efallai y cewch eich trosglwyddo i lefel is neu byddwn yn cysylltu â chi i siarad am eich opsiynau.
3 - Os yw’ch graddau ymhell oddi ar yr hyn yr oedd ei angen arnoch, peidiwch â chynhyrfu, lanlwythwch eich canlyniadau a bydd un o’n Tîm Derbyniadau yn cysylltu â chi i siarad am gyrsiau eraill.

3. Talu ffioedd

Ar gyfer rhai cyrsiau mae ffioedd gweithdy, offer a/neu wisg ysgol i'w talu, gweler isod ↓

4. Eich diwrnod cyntaf yn y coleg

Bydd yn ddydd Llun 2 Medi neu ddydd Mawrth 3 Medi yn dibynnu ar eich cwrs. Byddwch yn cael gwybod pa ddiwrnod y mae angen i chi fod yn bresennol unwaith y byddwch wedi cofrestru.

Mae ein holl staff yn gyfeillgar iawn ac mae gennym ni bolisi drws agored sy’n golygu y gallwch chi alw draw i’n swyddfeydd unrhyw bryd i ofyn cwestiwn. Dyma rai pobl ddefnyddiol i chi eu hadnabod. Dangosir i chi ble i ddod o hyd iddynt yn ystod eich diwrnod cyntaf yn y Coleg ond os nad ydych yn cofio, galwch i’r dderbynfa a byddwn yn eich cyfeirio at y cyfeiriad cywir.

Cysylltiadau Defnyddiol:

Offer sydd ei angen

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau bydd angen i chi gyllidebu tua £30 ar gyfer deunydd ysgrifennu. Bydd rhai cyrsiau hefyd yn gofyn bod gennych werslyfrau y gallech eu prynu’n ail-law, eu benthyca o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein.

Bydd unrhyw offer sydd angen eu prynu cyn i chi ddechrau ym mis Medi yn cael eu rhestru yma. Os na allwch weld unrhyw beth yma yn ymwneud â’ch cwrs, peidiwch â phoeni, byddwch yn cael gwybod am unrhyw offer sydd eu hangen yn ystod eich diwrnod cyntaf yn y Coleg.

Ffioedd Angenrheidiol

Gan fod gofyn i chi gwblhau profiad gwaith fel rhan o’ch cwrs coleg, bydd angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) arnoch drwy’r coleg.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn dod â’ch tystiolaeth i mewn ac yn talu cyn i’ch cwrs ddechrau ym mis Medi.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gyflwyno’ch cais. Bydd angen i’r tîm lleoliad gwaith weld eich tystiolaeth a bydd yn rhoi gwybod i chi sut i gwblhau’r broses DBS – dyma fanylion pa dystiolaeth sydd ei hangen. Dylech baratoi’r dystiolaeth hon yn barod ar gyfer y tîm trwy apwyntiad neu cyn gynted ag y bydd eich cwrs yn dechrau ym mis Medi.

Gwnewch apwyntiad DBS gyda’r tîm lleoliad gwaith neu ffoniwch y tîm ar 01437 753 137

Ffi DBS

Pob Lefel
£ 38
  • DBS manylach

Iechyd a Chymdeithasol

Blwyddyn Gyntaf
£ 30
  • ymweliadau addysgol

Iechyd a Chymdeithasol

Ail Flwyddyn
£ 15
  • ymweliadau addysgol